Yn ôl ym mis Mawrth 2020, yn fuan ar ôl dechrau cyfnod clo Covid cyntaf, penderfynodd tua ugain o ffyliaid gwirion ym Mhenarth sefydlu gorsaf radio gymunedol,
Seiniau Penarth. Dau o'r ffyliaid yna oeddd Phil Nedin ac Adrian Lewis, trefnwyr Clwb Acwstig Penarth, ac ers Mis Mai 2020, 'dyn ni'n darlledu sioeau "Clwb Acwstig" yn rheolaidd, i gymryd lle ein sesiynau byw misol.
Gallwch glywed yr holl sioeau 'dych chi wedi 'u colli fan hyn. Cliciwch ar yr eicon "Play" isod i gael y sioe ddiweddaraf, a bydd pob sioe yn cael ei chwarae un ar ôl y llall. Fe fydd cysylltiadau i bob sioe unigol ar gael yma yn y pen draw, gan gynnwys rhestrau traciau. Yn y cyfamser, mwynhewch! Cliciwch ar y geirau "Up Next" i weld lle ydych chi ar y llinell amser, neu neidiwch i sioe arbennig. DS: Widget Mixcloud ydy hon, sy ddim yn gweithio yn dda iawn ar ffonau symudol - sori!