'Dyn ni'n cwrdd unwaith bob mis, fel arfer y trydydd dydd Gwener, yng Nghlwb Ceidwadyr Penarth, 'fyny'r stair yn 'stafell Tywysog Wiliam. Dechreuon ni ar lawr uchaf Penarth Legion, ac o fan'na daeth yr enw gwreiddiol "Room at the Top". Yn anffodus fe gaeodd y Legion yn Ionawr 2015 ond mae'r enw dal yn fyw! Mae'n leoliad ar gyfer cerddoriaeth acwstic fyw, barddoniaeth, neu unrhyw berfformiad addas i lwyfan bach. Mae gynnon ni system PA, felly nid yw'r noson yn hollol "unplugged", ond ni fyddwch yn fyddar pan gadael. Mae maint cynulleidfa yn gyfyng, felly pe hoffech ddod draw, mae bendant yn werth prynu tocyn o flaen llaw oddi wrth siop gerddoriaeth Pencerdd, sy'n gyfagos yn Station Approach, neu Griffin Books, sy wrth mynediad Arcêdar brif stryd Penarth, sef Heol Windsor. Mae mynediad fel arfer yn £5 (ond gallai hyn newid o dro i dro), a mae'r cwbl yn mynd tuag at talu gwesteion. Mae enillion ein raffl yn mynd i elysennau. Ym mis Chwefror 2015, rhoddon ni gwerth £350 o offerynau gerdd i MIND in the Vale, ym mis Medi 2015 gwerth £300 o Ukuleles i Gerdd Gymunedol Cymru, ac ym mis Mehefin 2016, gwerth £400 o offerynau taro Samba, eto i Gerdd Gymunedol Cymru.
'Dyn ni'n cynllunio adloniant bob noson o flaen llaw, felly nid noson "meic agored" yw hi, ond yn fwy fel "Cabaret Acwstig", lle mae perfformwyr gwâdd yn darparu set o gwmpas 25-30 munud, ond mae'n weddol anffurfiol felly gall unrhywbeth ddigwydd o fewn rheswm! Mae'r drysau'n agor am 7:30 pm, ac anelir orffen erbyn 11pm. Nawr ac yn y man bydd nosweithiau arbennig yn cael eu cynnal, lle mae patrwm y noson, neu hyd yn oed y lleoliad, yn gallu newid.