Ganwyd Phil yn Abertawe amser maith yn ôl, chwaraeodd drymiau mewn nifer o fandiau o'r oedran 14 ymlaen, nes iddo symud i Lundain ym 1974.
Fe chwaraeodd gyda bandiau yn Llundain tan 1978 pan daeth yr amser i roi'r gorau iddi, ar ôl ymddangos ar recordiau sengl ac albwm detholiad STIFF. Ni wnaeth unrhywbeth ar sîn gerddorol yr 80au a'r 90au (pam bysai fe?), dim ond sgwennu ambell i gân.
Symudodd yn ôl i Gymru ac ymsefydlodd ym Mhenarth ym 1988. Dechreuodd chwarae gitâr a chanu mewn tafarndai o gwmpas 2011 a chyfarfod Adrian a Nick Treharne, a sefydlu'r clwb yn 2014. Roedd Nick yn rhan mawr o'r clwb am y 18 mis cyntaf, ond mae wedi symud ymlaen ers hynny.
Mae wedi bod yn uchelgais tymor hir i fod yn rhan o hyrwyddo digwyddiadau cerddorol, a gyda Chlwb Acwstic Penarth mae wedi gwireddu'r uchelgais hwnnw. Mae'n mwynhau canu yno fel cyflwynydd ar 3ydd dydd Gwener bob mis, ac wrth gwrs mae'r rhoddion elusen mae cynulleidfa rheolaidd y clwb yn eu rhoi trwy'r raffl yn hwb ychwanegol i barhau i wneud y digwyddiadau'n llwyddianus.
|
Hefyd yn hanu o Abertawe'n wreiddiol, mae Ade yn byw ym Mhenarth ers 1984.
Am gyfnod o 8 mlynedd yn yr 80au a'r 90au cynnar, fe drefnodd Clwb Gwerin a Blues Penarth, lle daeth â gwesteion megis Woody Mann, Duck Baker, Wizz Jones, Steve Tilston, a Show of Hands, ymhlith eraill di-ri o safon tebyg, i ddifyrru cynulleidfaoedd Penarth bob nos Iau, yn gyntaf yng Nghlwb Tennis Penarth a wedyn yng Nghlwb Llafur y dref.
Ym 1969, ac yntau dal dim ond 16 oed, gwnaeth albwm finyl fel hanner y ddeuawd Benjamin Delaney Lion, a chafodd trac oddi arno'i gynnwys yng nghasgliad 3-CD Cherry Red Records a gyhoeddwyd yn 2015, yn dwyn yr enw Dust on the Nettles - A Journey Through The British Underground Folk Scene 1967 - 1972. Wedi synnu'n fwy na neb gan ei gynnwys yn y casgliad hwn, ochr yn ochr â bandiau megis Pentangle, yr Incredible String Band a Fairport Convention, erbyn hyn mae'n siarad am ddim byd arall.
Cewch ddarllen dipyn o hanes ei siwrnai gyflym i ddinodedd yn y cylchgrawn ar-lein It's Psychedelic Baby.
|