Yn ymweld â ni o Nova Scotia, mae Erika Kulnys yn gyfansoddwraig ysbrydoledig a thoreithiog, yn gweithio ar draws sawl dull gwahanol, sy'n sgwennu caneuon gwefreiddiol a fydd yn newid eich ffordd o weld eich hunan a'r byd. Mae ganddi lais pwerus gydag ystod eang o soniareddau ac emosiwnau, a mae'i hiwmor a gonestrwydd ar lwyfan yn agor ei cherddoriaeth i gynulleidfaoedd ar draws oedran a diwylliant.
Enillodd ei CD, Angel on the Road, wobr Recordiad Ysbrydoledig y Flwyddyn 2015 yn Nova Scotia. Casgliad o ganeuon cariad, iachau a heddwch, yr oedd yn y 10 uchaf yn y siartiau lleol, a chyrraeddodd rownd olaf y gystadleuaeth CBC Searchlight ar gyfer artist newydd orau Canada 2015.
Cyrraeddodd Erika rownd olaf cystadleuaeth Artist Benywaidd Orau yng ngwobrau Cerddoriaeth Acwstic Rhyngwladol 2014, gyda'i chân Had to Come Home.
Mae'i CD diweddaraf, Rise Up, ar fin cael ei ryddhau. Mae'n gasgliad o ganeuon sy'n dweud straeon am gariad, cyfiawnder cymdeithasol a rhyddid, a chafodd ei recordio yn stiwdio Signature Sounds gan Mark Thayer (artistiaid fel Josh Ritter a Richard Schindell). Mae Rise Up yn cynnwys cerddorion Dave Mattacks (Fairport Convention, Paul McCartney), Richard Gates (Patty Larkin), a Jim Henry (Mary Chapin-Carpenter, Paula Cole).
|
Mae David Foster-Morgan yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd. Dechreuoedd sgwennu barddoniaeth yn ei ieuenctid hwyr - neu yn gynnar yn ei ganol oedran - a pharhaodd, er gwaethaf gyrhaeddiad ieuenctid hwyr iawn, neu ganol oedran go iawn.
Mae wedi goroesi rhwystrau fel ei Square Fact yn cael ei gwrthod, i weld ei gerddi yn cael eu cyhoeddi mewn sawl cylchgrawn, yn cynnwys Poetry Wales, Envoi, Smiths Knoll, a The Interpreter’s House.
Cyrhaeddodd rhestr fer cystadleuaeth barddoniaeth y Times Literary Supplement, a chafodd ei gasgliad cyntaf, Masculine Happiness, ei gyhoeddi gan Lyfrau Seren mis Hydref diwethaf.
Mae'i waith yn anelu at cymysgu'r beunyddiol gyda'r metaffisegol, a fel arfer yn mynd o chwith, yn cymysgu'r gorffennol gyda gwidryn o Metaxa; neu ddysgu ymarfer corrf i blant o Fae Caerdydd.
Mynychodd Square Writers yn Waunadda yn rheolaidd am 2 flynedd, a mae'n tueddu cwyno am ddiffyg grwpiau tebyg, ond yn llawn mor debyg i anghofio mynd pan cychwyn un newydd. Mae'n ddyn moesgar ac addfwyn tu hwnt; mae fel nad oes unrhywbeth yn ei boeni. Mae'n ddyn twymgalon a deallusol, ond mae ganddo hefyd synnwyr digrifwch sych, a mae pob un o'r agweddau yma o'i gymeriad yn cael ei adlewyrchu i raddau yn ei farddoniaeth.
|
Wedi'u hailuno yn y clwb ym mis Ionawr llynedd am y tro cyntaf mewn 20 mlynedd, mae John Lewis a Tony Thompson, meistri blues a rockabilly, yn dychwelyd diolch i alw mawr, gyda set arall ysgytwol i godi'r galon a'r tô.
Dathlodd John 30 mlynedd yn y busnes yn ddiweddar, ac i nodi'r garreg filltir hon fe rhyddhaodd ei 15fed albwm stiwdio, His Other Side, casgliad sy'n canolbwyntio mwy ar ei chwarae acwstic na'i recordiau blaenorol.
Eleni mae John wedi teithio a chwarae mewn wyth gwlad wahanol tu allan i'r DU, yn aml fel prif atyniad gwyliau fel Greeze yn Awstralia. Yn cael ei ddisgrifio fel "un o gyfrinachau mwyaf Cymru", mae dal i weithio'n eang yn y wlad yma a bydd yn rhyddhau albwm unawd yn gynnar y flwyddyn nesaf tra bod yn cynllunio taith deunaw-diwrnod o Land’s End i John O’Groats.
Yn cydweithio gyda'r hyfedredd ryfeddol harmonica blues Tony Thompson, mae'r ddeuawd yn creu swn sy'n sicr o gynhyrfu!
|